Costau ynni: Fe fydd y prif weinidog nesaf yn delio gyda hyn medd Johnson

Fe fydd y prif weinidog nesaf yn delio gyda’r cynnydd mewn biliau ynni yn ôl Boris Johnson.
Dywedodd fe fydd ei olynydd yn darparu “pecyn enfawr” o gymorth.
Roedd yn beio rhyfel Rwsia yn Wcráin am y cynnydd yn y prisiau ond ychwanegodd fod “grym Putin yn gwanhau” pob mis.
Mae elusennau ac arbenigwyr wedi galw ar lywodraeth y DU i gyhoeddi rhagor o gymorth fel mater o frys.
Fe gyhoeddodd Ofgem ddydd Gwener fe fydd y cap ar filiau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn.
Mae hyn yn gynnydd o 80% ers mis Ebrill pan oedd biliau ar gyfartaledd wedi codi i £1,971 y flwyddyn.
Mae disgwyl i 24 miliwn o dai ar hyd Prydain gael eu heffeithio wrth i'r codiad ddod i rym ar 1 Hydref.
Darllenwch fwy yma.