Gwylnos er cof am Lily Sullivan yn Sir Benfro
Mae trigolion Sir Benfro yn cael eu hannog i oleuo cannwyll tu allan i’w tai er cof am Lily Sullivan, nos Sadwrn.
Daw’r alwad am yr wylnos gan aelod o’r gymuned i ddangos cefnogaeth i deulu Lily wrth iddi nosi.
Cafod dyn 31 oed ei ddedfrydu am oes dan glo ddydd Gwener am lofruddio’r ferch 18 oed ar noson allan gyda’i ffrindiau yn nhref Penfro.
Fe fydd Lewis Haines yn treulio o leiaf 23 mlynedd a phedwar mis yn y carchar am ladd Lily Sullivan ar noson allan gyda ffrindiau yn nhref Penfro.
Cafodd Lily Sullivan ei llofruddio ym Mhenfro yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener, 17 Rhagfyr 2021.
Fe nododd archwiliadau fforensig fod Lily wedi dioddef ymosodiad treisgar a bod achos ei marwolaeth yn gyson â chrogi.