
Y Gymraes tu ôl i'r dafarn LHDT+ gymunedol gyntaf erioed
Y Gymraes tu ôl i'r dafarn LHDT+ gymunedol gyntaf erioed
Roedd Dr Amy Roberts a'i ffrindiau yn dorcalonnus pan gafodd cynlluniau eu cyhoeddi i gae eu hoff dafarn LHDT+ yn Llundain rhyw saith mlynedd yn ôl.
Penderfynodd y grŵp o ffrindiau ymladd dros ddyfodol y dafarn, gan ffurfio'r grŵp Friends of the Joiner's Arms. Pwrpas y grŵp oedd ceisio cadw'r Joiner's Arms yn nwyrain Llundain ar agor wedi i ddatblygwyr brynu'r safle.
Er i'r grŵp sicrhau rhywfaint o lwyddiant gyda'r cyngor lleol, mae'r Joiner's Arms yn parhau ar gau.
Felly yn lle, mae'r grŵp wedi bod yn codi arian er mwyn agor tafarn newydd ar gyfer y gymuned LHDT+.
Bwriad yr ymgyrch yw sefydlu tafarn dielw sydd yn gweithio er lles y gymuned, gyda phob un person sydd wedi cyfrannu arian yn cael ei ystyried yn gyfranddaliwr.
Erbyn hyn, mae'r ymgyrch wedi cyrraedd ei tharged, gan godi dros £120,000.
Yn ôl Amy, dyma fydd y dafarn LHDT+ gyntaf fydd yn berchen gan y gymuned.
"Mae llwyth o gyffro, mae pawb yn siarad amdano fe," meddai.
"Mae'n hynod o bwysig i gael tafarn sydd yn ddielw ac yn gweithredu er lles y gymuned, er mwyn i ni roi 'mlaen lot o wahanol bethau yn y tafarn sydd dim ond yn meddwl am beth sydd yn mynd i greu arian ar gyfer y cwmni."

"Felly yn cyrraedd yr anghenion gwahanol o lawer o bobl o fewn y gymuned LHDT+."
Dywedodd Amy yr oedd y Joiner's Arms yn 'gofod diogel' ar gyfer y gymuned; ardaloedd sydd o dan fygythiad yn ddiweddar.
Yn ôl adroddiad o 2017 gan Gynulliad Llundain, mae'r ddinas wedi colli dros hanner ei thafarndai a chlybiau LHDT ers 2006.
Yn ôl Amy, mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd yr ymgyrch i agor fersiwn newydd o'r Joiner's Arms.
"Mae llefydd LHDT+, felly llefydd sydd yn safe spaces hynod o bwysig, mae'n anodd dweud pa mor bwysig yw nhw i fod yn onest."
"Yn enwedig pan mae rhai o bobl o fewn y gymuned LHDT+, fel pobl draws, yn cael ei attacko yn y newyddion sut gymaint."
"Mae'n nhw'n hynod o bwysig i gael llefydd lle gallwn nhw'n dod at ein gilydd fel cymuned a bod gydag ein gilydd."

Dydy'r dafarn newydd heb ei agor eto, ond mae Amy yn dweud bod y proses wedi dechrau i ffeindio safle newydd ar ei gyfer.
Gyda Chymru yn dathlu Pride dros y penwythnos, mae Amy yn gobeithio y gall yr ymgyrch ar gyfer y Joiner's Arms ysbrydoli prosiectau tebyg yng Nghymru.
"Byswn i'n caru gweld rhywbeth tebyg yng Nghymru! Bendant hoffwn i weld llwyth mwy o lefydd yn neud yr un peth."
"Mae llwyth o dafarndai neu siopau ym Mhrydain yn defnyddio'r un model a ni, be sy'n neud ni yn wahanol yw ni yw'r grŵp LHDT+ cyntaf i'w wneud."
"Felly ni jyst yn copïo pobl eraill, felly hoffwn i weld llwyth o dafarndai LHDT+ cymunedol yn agor ar draws Prydain, yn enwedig yng Nghymru."