Newyddion S4C

Gofalwr ifanc yn rhoi’r gorau i addysg i helpu’r teulu gyda chostau byw

ITV Cymru 26/08/2022
Beca Williams

Mae gofalwr ifanc wedi penderfynu rhoi'r gorau i addysg llawn amser er mwyn cefnogi ei theulu yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Mae Beca Williams, o Ddeiniolen yng Ngwynedd, wedi penderfynu yn erbyn parhau i astudio ei lefel-A yn llawn amser, gan ddewis chwilio am brentisiaeth mewn lletygarwch er mwyn iddi ennill arian wrth ddysgu ar yr un pryd. 

Daw hyn wrth i'r rheoleiddiwr egni Ofgem gyhoeddi ddydd Gwener bydd y cap ar brisiau egni yn cynyddu’n fwy na 80% i £3,549 o 1 Hydref. 

Mae’r newid yn golygu bydd aelwydydd ar dariff amhenodol tebygol yn talu £1,578 ychwanegol y flwyddyn ar nwy a thrydan.

Erbyn hyn, gyda llawer o bobl ifanc ledled Cymru ar fin dychwelyd i ysgol neu goleg yn yr wythnosau nesaf, mae rhai yn gwneud y pendefyniad anodd i adael addysg er mwyn ennill cyflog. 

Image
Ynni
Mae prisiau ynni wedi cynyddu unwaith eto gan roi pobl o dan ragor o bwysau ariannol

Mae Beca, sy’n 17 mlwydd oed, yn byw gyda’i brawd hŷn Gwion a’i mam Delyth yn eu cartref teuluol.

“Mae angen imi allu cynnal fy hun nawr yn hytrach na dibynnu ar eraill i ofalu amdana’i,” meddai.

“Mae’n anodd imi ofyn i rywun ‘alla’i fenthyg hwn?’ neu ‘alla’i fenthyg y llall?’ achos dwi’n gwybod pa mor anodd yw hi ar hyn o bryd i bobl ofalu am ei hun heb sôn am bobl eraill."

“Mam, dad, aelodau eraill y teulu, mae’n effeithio ar bawb ar y foment.”

'Gaeaf yn fy mhoeni'

Mae brawd Beca, Gwion hefyd yn chwilio am ail swydd wrth iddo frwydro yn erbyn y gost o gynnal ei gar, jyglo gwaith gwirfoddol a’i ddyletswyddau yn y cartref.

Dywedodd Gwion, sy’n 18 mlwydd oed ac yn hyfforddi pêl-fasged yn lleol, ei fod wedi teimlo dan bwysau i helpu sefyllfa ariannol y teulu ers troi’n 18. 

“Mae gen i swydd ym Methesda, a dwi wrthi’n trial dod o hyd i ail swydd er mwyn imi gael arian yn dod mewn i ofalu am fy hun,” meddai.

“Mae angen fy nghar arna’i i gyrraedd y gwaith ac mae dod o hyd i’r arian ar gyfer o’n anodd. Fy ngôl yw jyst i gael mwy o arian yn dod mewn i helpu’r teulu. 

“Gyda’r sefyllfa ariannol yn y tŷ, mae Beca a fi’n gweithio ac rydym ni’n trial gofalu am y teulu i gyd, ond mae mam yn mynd trwy lawer o bwysau.” 

Mae’r teulu yn cael cymorth gan yr elusen Action for Carers ond dywedodd y fam, Delyth Williams wrth ITV Cymru Wales fod hyd yn oed gwneud y pethau symlaf bron yn amhosib gyda’r cynnydd mewn costau byw dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

“Dydw i ddim wedi gallu gwneud llawer gyda’r plant dros yr haf,” meddai. 

Image
Delyth Williams

“Fel arfer, bydden ni’n cael o leiaf penwythnos o wyliau rhywle, ond dydy hynny ddim wedi bod yn bosib eleni.

“Dyna beth sy’n anodd. Pwrpas bywyd yw creu atgofion a byw, ond dwyt ti ddim yn gallu gwneud hynny bellach.”

“Mae meddwl am y gaeaf yn fy mhoeni’n ofnadwy, mae’n rhaid ichi droi’r gwres ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.