Triniaeth a chyngor i ferched am PCOS yn 'annigonol', medd elusen

Triniaeth a chyngor i ferched am PCOS yn 'annigonol', medd elusen
Mae’r driniaeth a’r cyngor sydd ar gael i ferched sy’n byw gyda chyflwr PCOS neu Syndrom Polycystic Ovary yn “annigonol”, yn ôl elusen.
Daw sylwadau Fair Treatment for the Women of Wales ar ôl i un fenyw sy’n byw gyda'r cyflwr ddweud wrth Newyddion S4C nad oes cymorth ar gael i ferched sy’n edrych i drin PCOS am resymau tu hwnt i gymorth beichiogi.
Mae Nia Jenkins yn un o sawl merch sy’n gorfod parhau hefo’i thasgau dyddiol tra’n byw hefo cyflwr PCOS.
Er iddi gael diagnosis yn 15 oed, ma Nia yn dal i chwilio am ffyrdd i drin y symptomau mae’n rhaid iddi ddygymod â nhw bob dydd.
“Dwi’n dechre teimlo’n isel amdano fe. Fi’n gweld bod symptomau fi’n gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn," meddai.
"Ma' pwyse fi’n codi, dwi’n colli gwallt, ma’r mood swings yn uffernol. Pan dwi ar period fi dwi’n cal trafferth gadal y tŷ gan bod e mor wael.”
Mae PCOS yn cael ei achosi gan anghydbwysedd yn lefelau hormonau merched ac os heb ei drin gall arwain at gymhlethdodau hirdymor gan gynnwys problemau ffrwythlondeb.
Erbyn hyn yn fam i dri o blant, ma Nia yn teimlo nad oes digon o gyngor ar gael i’r rheini sydd ddim yn chwilio i drin y cyflwr am resymau ar wahan i hyn.
"'Sdim byd yn cal ei gynnig rhagor gan bo fi’m yn trio am blant a menopause rownd y gornel," meddai.
"'Sdim cymorth i gal ar hyn o’r bryd heblaw am mynd 'nôl ar y pill sy’n teimlo’n od nawr. I fi, sai’n credu bod hwne yn triniaeth sydd yn gallu bod yn hirdymor am gyflwr sy' 'da fi am weddill fy oes."
'Problemau hirdymor'
Mae cyflwr PCOS yn effeithio ar un o bob 10 o ferched ar draws Y Deyrnas Unedig.
Mae elusen Fair Treatment for the Women of Wales yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o sylw i gyflyrau iechyd merched fel PCOS i adnabod symptomau yn fwy prydlon er mwyn atal camddiagnosis.
Dywedodd Julie Richards o'r elusen: “Ma' rhai o’r symptomau mor gyffredin fel iselder, magu pwysau, acne ac felly fel arfer ma’r diagnosis yn anghywir a dyna pam mae’n arwain at broblemau hirdymor.
"Be' dani’n galw ar y Llywodraeth fel sawl elusen ydi i neud mwy o ymchwil er mwyn adnabod symptomau yn syth fel bod merched ddim yn cael eu harwain lawr y llwybr iechyd anghywir."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi sefydlu Grwp Gweithredu Iechyd Menywod sy’n parhau i gefnogi ystod o faterion iechyd merched, gan gynwys iechyd mislif a PCOS.
Fe fydd y gwasnaeth iechyd yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi cynllun iechyd 10 mlynedd yn yr Hydref er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o answadd da i ferched.