Teithwyr yn sownd yn yr Eurotunnel am bump awr

Cafodd cannoedd o deithwyr eu gadael yn sownd yn yr Eurotunnel am fwy na pum awr wedi i'w trên dorri lawr.
Roedd y trên yn teithio o Calais i Folkestone ond fe stopiodd yng nghanol y twnnel sydd yn cysylltu Lloegr a Ffrainc brynhawn dydd Mawrth.
Yn y pendraw roedd rhaid i deithwyr symud i drên arall, gyda lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn cerdded trwy dwnnel arall er mwyn parhau gyda'u taith.
Fe achosodd y problemau oedi sylweddol gyda theithwyr yn cyrraedd Folkestone rhyw chwe' awr ar ôl mynd ar y trên am y tro cyntaf.
Fe wnaeth Eurotunnel Le Shuttle rhybuddio teithwyr i osgoi defnyddio'r orsaf yn Calais oherwydd y broblem ac ymddiheuro am unrhyw drafferth.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Kate Scott / Twitter