Gofidiau am anwyliaid ar ddiwrnod annibyniaeth Wcráin

Gofidiau am anwyliaid ar ddiwrnod annibyniaeth Wcráin
Mae gan Kateryna Prokopenko ddigonedd o luniau'n ei dangos hi a'i gwr, Denys, yn mwynhau bywyd ar ei orau.
Yn sgïo ar lethrau'r mynydd, yn cofleidio ar ben clogwyn, yn mwynhau llonyddwch y llyn. Holl gyfoeth bywyd gŵr a gwraig, yn cael ei gloriannu mewn llun.
Ond mae hwnnw, i bob golwg bellach, yn fyd gwahanol.
Denys Prokopenko oedd pennaeth catrawd Azov, y milwyr fu'n ceisio amddiffyn dinas Mariupol rhag lluoedd Rwsia yn ystod misoedd cynta'r rhyfel.
Mi fuon nhw dan warchae am wythnosau ar safle'r gwaith dur, cyn ildio i'r Rwsiaid ar 20 Mai, a nhwythau erbyn hynny heb fwyd, dŵr na moddion i'w cynnal.
"Y tro diwetha i mi siarad ag o oedd ar 23 Mai .... hynny oedd y sgwrs ddiwetha ... ar ôl i'r milwyr ildio," meddai Kateryna wrth Newyddion S4C.
"Mi oedd hi'n dridiau ar ôl iddo adael gwaith dur Azovstal. Doedd y cyswllt ffôn ddim yn dda .... prin oeddan ni'n gallu clywed ein gilydd. Dyna'r tro diwetha y gwnaethon ni siarad, dwi'm di clywed dim ganddo ers hynny."
'Gobeithio bydd popeth yn iawn'
Mae Kateryna'n credu bod ei gŵr yn cael ei gadw ar dir Rwsia, er nad oes modd iddi fod yn siŵr o hynny. Mae 'na adroddiadau bod rhai o'r milwyr bellach wedi eu lladd, ac ofnau y bydd Rwsia'n cyhuddo eraill o droseddau terfysgol, o bosib i gyd-fynd â diwrnod annibyniaeth Wcráin dydd Mercher.
Er hynny'n mae'n dal i fod yn obeithiol y caiff ei weld eto ryw ddydd.
"Dwi jyst yn credu y byddai’n ei weld o yn y dyfodol, ond wn i ddim beth fydd yr amgylchiadau, na'r cyhuddiad y bydd o'n ei wynebu.
"Mae'n dibynnu ar ein diplomyddiaeth, ein gwleidyddiaeth. Dwi ond yn gobeithio y bydd popeth yn iawn."
Dydy'r milwyr ddim wedi mynd yn angof, gyda phrotest yn ninas Lviv rai dyddiau'n ôl yn galw am eu rhyddhau. Mae hynny wedi digwydd ryw ychydig wrth i'r ddwy ochr gyfnewid carcharorion, a rhai o Wcráin yn dweud y cawson nhw eu harteithio yn ystod eu cyfnod mewn caethiwed.
Er bod rhai o aelodau cynnar catrawd Azov yn cael eu cysylltu â safbwyntiau asgell dde, gwarchod tir Wcráin oedd y nod yn Mariupol. Mae 'na reolau i warchod carcharorion rhyfel, ond fydd Rwsia'n parchu'r rheini?
"Dwi'n cofio gwen Denys, ei emosiwn. Roedd ein perthynas yn un ddisglair iawn, perthynas hynod o emosiynol. Dwi'n cofio'n profiadau yn teithio gyda'n gilydd, ein gwyliau. Dwi eisiau i hynny ddigwydd eto yn ein bywydau yn y dyfodol.
"Dwi isio gweld fy Denys i, wrth gwrs, dyna pam dwi'n weithgar yr eiliad hon, oherwydd dwi eisiau ei weld o'n fyw ond hefyd y milwyr eraill."
Wedi chwe mis o ryfel, mi fydd na lawer mwy o hanesion am bobol fu mor agos bellach ar wahân. Yn achos Kateryna Prokopenko, mae'n ofid gwraig am ei gŵr.