Newyddion S4C

Liz Truss: Pwy yw’r ymgeisydd i Rif 10?

Newyddion S4C 24/08/2022

Liz Truss: Pwy yw’r ymgeisydd i Rif 10?

Mae haf o ymgyrchu bron ar ben i ddau ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd newydd ar y blaid Geidwadol ac yn Brif Weinidog Prydain.

Mewn llai na phythefnos, fe ddaw i'r amlwg ai'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak neu’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss fydd yn olynu Boris Johnson.

Ond pwy yw Liz Truss?

Fe gafodd ei geni'n Rhydychen ym 1975 yn ferch i academydd a nyrs. Pan oedd hi'n bedair oed, fe symudodd y teulu i Paisley yn Yr Alban, cyn symud i Leeds, yng ngogledd Lloegr. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae Liz Truss wedi gweithio yn y sector breifat, ac fe fethodd ddwywaith ag ennill sedd seneddol. Cafodd ei hethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2010 fel yr aelod Ceidwadol dros etholaeth dde-orllewin Norfolk. 

Ymunodd Liz Truss â'r cabinet am y tro cyntaf yn 2014.  Ymgyrchodd yn erbyn Brexit yn 2016, cyn gwneud tro pedol yn dilyn y canlyniad.

Y llynedd, ar ôl bod yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, cafodd ei phenodi i'w swydd bresennol fel Ysgrifennydd Tramor, ble mae hi wedi gorfod ymateb i'r rhyfel yn Wcráin.

Yn wahanol i'w gwrthwynebydd, y cyn-Ganghellor Rishi Sunak, mae Liz Truss wedi gaddo torri trethi ar unwaith os ydy hi'n ennill y ras i Rif 10. Dyma bolisi sy'n taro deuddeg gydag aelodaeth y blaid, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Theo Davies-Lewis.

"Ni wedi gweld Liz Truss yn ymateb gyda'i pholisïau economaidd a pholisïau ariannol i beth mae'r aelodaeth Ceidwadol mo'yn clywed.

"Mae e'n eitha' diddorol i weld sut mae Liz Truss i ryw raddau wedi dwyn dillad Rishi Sunak ar yr economi.

"Hi sydd yn swnio fwyaf cyfforddus yn siarad am yr economi achos bod hi'n gwybod beth mae'r aelodaeth mo'yn clywed yn y Blaid Geidwadol."

Yn ôl arolygon barn, Liz Truss yw'r ffefryn clir i ennill yr ornest hon. 

Mae gan aelodau'r blaid hyd at yr ail o Fedi i fwrw'u pleidlais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.