
Heddlu yn ymuno ag ymgyrch i warchod treftadaeth

Heddlu yn ymuno ag ymgyrch i warchod treftadaeth
Mae pedwar o luoedd Heddlu Cymru am y tro cyntaf erioed wedi ymuno â chynllun newydd, sy'n rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â throseddau sy’n difrodi trysorau hanesyddol y wlad.
Mae troseddau yn erbyn henebion yn faes eang ac yn cynnwys bwrgleriaeth, cynnau tân yn anghyfreithlon, ac achosi niwed i leoliadau archaeolegol.
Ond mae problemau bychain dyddiol hefyd yn codi gan bobl sydd ddim yn sylweddoli’r difrod sy’n cael ei achosi gan eu gweithredoedd.
“Y broblem fwyaf ry’ ni’n ei wynebu ar hyn o bryd yw tanau," meddai Tomos Jones sydd yn Archaeolegydd Cymunedol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
“Mae’n batrwm ry’ ni wedi sylwi arno ers dechrau’r cynllun yma."
"Yn yr haf, mae pobl mo'yn cael barbeciw, ond yn sgil newid hinsawdd, mae’r tir yn sychach, ac mae’n hawdd iawn i dân ledu’r tu hwnt i reolaeth, gan effeithio ar leoliadau hanesyddol o bwys.
Cafodd Ymgyrch Treftadaeth Cymru ei chyhoeddi’n swyddogol ym mis Mehefin er mwyn ceisio gostwng nifer yr achosion o henebion yn cael eu dinistrio.
Dyma’r ymgyrch gyntaf o’i bath trwy’r Deyrnas Unedig, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu am y tro cyntaf er mwyn mynd i’r afael â throseddau yn y maes penodol hwn.
Mae timau o swyddogion bellach yn gweithio gyda CADW, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er mwyn ceisio adeiladu mwy o ddealltwriaeth ynglyn â'r math yma o droseddau.
“Bwriad yr ymgyrch yw gweithio’n well gyda’n partneriaid fel CADW, ond hefyd gyda lluoedd eraill ar draws Cymru fel bod modd i ni ddeall yr heriau sy’n wynebu lleoliadau hanesyddol," meddai'r Uwch-Arolygydd Ifan Charles o Heddlu Dyfed Powys.

"Er enghraifft, os oes yna batrwm o ran lle mae’r troseddau’n digwydd. Hefyd, ry’ ni’n gallu gweithio’n agosach gyda’r gymuned er mwyn sicrhau ein bod yn gweld lle mae angen i ni ymyryd er mwyn atal pethau rhag digwydd."
"Y rhybudd plaen yn aml gyda’r troseddau yma yw bod niwed i safleoedd hanesyddol yn golygu bod yr hanes hwnnw yn cael ei ddileu am byth."
'Hollbwysig i warchod ardaloedd hanesyddol'
Dros gyfnod y Nadolig ddiwedd 2021, cafodd Eglwys y Grog ym Mwnt ei difrodi ddwywaith. Roedd yna ddifrod i'r ffenestri, i glwyd y fynwent, ac yn yr eglwys hynafol.
O fewn dyddiau, cafodd £30,000 ei godi wrth i bobl gyfrannu tuag at waith adfer sydd bellach yn mynd rhagddo.
Ac mae yna drafodaethau pellach rhwng swyddogion lleol a Heddlu Dyfed Powys ynglyn â strategaethau i atal fandaliaeth o’r math yma yn y dyfodol.

Roedd yna awgrym y gallai Camerau Cylch Cyfyng gael eu cyflwyno i ardaloedd fel Mwnt. Ond gyda hynny, mae ‘na broblemau ynglyn â chyfreithiau preifatrwydd wrth gasglu lluniau, heb son am yr heriau ymarferol o gyflenwi pŵer, a chynnal a chadw’r dechnoleg.
Mae defnyddio technoleg symlach fel synhwyrydd yn haws, ac yn anfon neges yn syth i ffôn gwirfoddolwyr lleol sydd mewn cyswllt cyson â thimau’r heddlu. Mae’n cynnig un datrysiad syml, yn ôl y cynghorydd lleol Clive Davies.
“Bydde ffordd i ni rhoi sensor wrth y drws, motion sensors tu fewn. Felly bydde modd eu defnyddio nhw, a chadw’r drws ar agor i bobl fwynhau’r eglwys," meddai.
Lawr yn Sain Ffraid ar arfordir Sir Benfro, mae’r Archaeolegydd Cymunedol Tomos Jones yn tanlinellu pwysigrwydd hanesyddol yr ardal. Hanes sydd yn aml iawn, y tu hwnt i ymwybyddiaeth twristiaid sydd yn ymweld â’r ardal, meddai e.
“Mae yna beddau hynafol yn y creigiau yma, ac o bryd i’w gilydd, mae olion dynol yn cael eu darganfod."
"Felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwarchod ardaloedd fel hyn. Ac hefyd, mae gyda ni’r odyn galch yma sydd yn gofeb restredig o bwys cenedlaethol. Ac wrth gwrs, os oes yna danau, fel y chi’n gweld wrth yr olion yma, mi allai fod yna ddifrod mawr.”
Nod yr ymgyrch newydd hon yw sicrhau fod heddluoedd yn cyd-weithio er mwyn gwarchod henebion.
“Ry’ ni’n sylweddol pa mor bwysig yw’r safleoedd hyn i hanes Cymru” meddai’r Uwch-Arolygydd Ifan Charles.
“Ac unwaith bod y safleoedd yma wedi eu difrodi neu eitemau wedi eu dwyn, mae’n anodd iawn eu hadfer. Ar draws Cymru, ry’ ni’n derbyn bod rhaid deall y sefyllfa’n well a dyna pham bod yr ymgyrch yma ar waith. Yn dod â holl luoedd Cymru at ei gilydd gyda phartneriaid, er mwyn cyd-weithio’n well a datrys y problemau yma i’r dyfodol.”