Newyddion S4C

Parc Cenedlaethol arall i Gymru?

Parc Cenedlaethol arall i Gymru?

Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy eisoes wedi ei ddynodi'n ardal o "harddwch naturiol eithriadol" ond mae rhai am weld yr ardal yn derbyn statws Parc Cenedlaethol llawn.

Mae Gavin Harris yn berchen ar ddau westy lleol ac fe ddywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'n bwysig iawn bod marchnata yn cael ei 'neud lle bod o ddim jest yn pwysleisio ar y llefydd adnabyddus fel Moel Famau.  

"Dod â buddiant economi i ardaloedd fel Corwen a llefydd fel Rhuthun, Yr Wyddgrug sydd hefyd ar y gyrion, 'se lot o drefi fysa'n gallu elwa'n fawr iawn".

Ond, mae eraill yn llai awyddus i weld y syniad yn cael ei wireddu.

Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry o Gyngor Sir Ddinbych: "Mae statws Parc Cenedlaethol yn dod â chyfyngiadau efo fo.  Petha' 'fo cynllunio a rhwystro busnesau mewn rhai llefydd.

"Mae'r ffyrdd yn gul yma, ma' 'na gar park yn ymyl fi famma ond dyw nhw ddim 'di cael eu gwneud i dorf fowr o bobl droi fyny".

Ymateb gwleidyddol

Mae'r blaid Lafur yn cynnig creu Parc Cenedlaethol ym Mryniau Clwyd fel rhan o'i maniffesto.

Mae Plaid Cymru'n dweud y dylai twristiaeth fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol i'r economi leol.

Dywed y Ceidwadwyr y gallai tawelwch naturiol gael ei ddifetha gan ormod o ymwelwyr.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau o'r fath.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.