Newyddion S4C

£100,000 o iawndal i rai gafodd waed wedi ei heintio

Newyddion S4C 17/08/2022

£100,000 o iawndal i rai gafodd waed wedi ei heintio

Bydd miloedd o bobl a gafodd waed oedd wedi ei heintio yn derbyn iawndal o £100,000.

Y dioddefwyr ac aelodau'r teulu sydd yn dal yn fyw, fydd yn derbyn yr arian. 

Dyma'r tro cyntaf i'r rhai sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal, dderbyn iawndal. 

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau bod nifer wedi eu hanwybyddu a ddim yn gymwys i dderbyn unrhyw arian 

Yn y 1970au a'r 80au, cafodd miloedd o gleifion hemoffilia waed gan y Gwasanaeth Iechyd a oedd wedi ei heintio â HIV a hepatitis C.

Yn sgil hyn, fe wnaeth tua 3,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig farw. 

Mae disgwyl i'r taliadau gael eu gwneud yn Lloegr erbyn diwedd Hydref ond bydd pobl yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cael yr un taliadau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.