Newyddion S4C

Seren Tik Tok Cymru yn ffilmio gyda Gemma Collins

06/08/2022
S4C

Mae un o sêr Tik Tok Cymru wedi bod yn ffilmio gyda’r seren realiti, Gemma Collins.

Mewn neges ar ei gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, fe rannodd Ellis Lloyd Jones gyfres o luniau gyda Gemma Collins.

Wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd S4C y bydd Gemma Collins yn ymddangos ar S4C yn fuan mewn cyfres newydd sy’n gweld enwogion teledu realiti, pob un â'i gysylltiad ei hun â Chymru, yn ymgolli'n llwyr yn y diwylliant Cymreig.

Dywedodd Ellis Lloyd Jones ei fod wedi cael yr “amser gorau erioed” yn ffilmio gyda Gemma Collins.

Mae Gemma Collins yn fwyaf adnabyddus am ymddangos ar raglen The Only Way is Essex sy'n olrhain hanesion criw o bobl sy'n byw yn y sir yn Lloegr.

Mae hi hefyd wedi ymddangos ar I'm a Celebrity, Celebrity Big Brother a Dancing on Ice.

Llun: Instagram @xellislloydjonesx

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.