Archie Battersbee: Teulu’n cadarnhau ei fod wedi marw

Sky News 06/08/2022
Archie Battersbee

Mae teulu Archie Battersbee wedi cadarnhau fod y bachgen 12 oed wedi marw ddydd Sadwrn.

Dywedodd ei fam, Hollie Dance, ei fod wedi “ymladd tan y diwedd.”

Bu farw Archie yn Ysbyty Brenhinol Lundain am 12.15 ar ôl i driniaeth oedd yn ei gadw'n fyw gael ei atal.

Daw hyn ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu nad oedd Archie i gael ei symud o'r ysbyty i hosbis yn dilyn cais gan ei deulu.

Roedd ei fam am i'w mab oedd ag anafiadau i'w ymennydd allu "treulio ei eiliadau olaf" gyda'i deulu mewn lle preifat.

Roedd Archie wedi bod mewn coma ers iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol gan ei fam yn eu cartref yn Essex fis Ebrill.

Roedd cyfreithwyr ar ran teulu Archie wedi apelio i gael symud Archie o'r ysbyty mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Iau.

Daw hyn wedi sawl ymgais cyfreithiol gan y teulu i sicrhau bod triniaeth i achub ei fywyd yn cael parhau.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.