Newyddion S4C

Gorchymyn i gyflwynydd radio dalu iawndal o $49m am wneud honiadau ffug am Sandy Hook

Evening Standard 06/08/2022
Alex Jones

Mae’r cyflwynydd radio Americanaidd Alex Jones wedi cael ei orfodi i dalu $49m o iawndal ar ôl gwneud honiadau ffug fod y digwyddiad yn Sandy Hook yn 2012 heb gymryd lle.

Mae llys yn nhalaith Texas wedi dyfarnu fod yn rhaid i Jones dalu $45.2m fel iawndal cosb ar ben y $4.1m a ddyfarnwyd yn gynharach am ddigolledu.

Cafodd 20 o blant a saith oedolyn eu saethu’n farw yn Sandy Hook yn nhalaith Connecticut.

Roedd Jones wedi dweud fod y digwyddiad yn un ffug gan lywodraeth yr UDA er mwyn newid hawliau gynnau a bod y rhieni yn actorion.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.