10 o bobl wedi marw mewn tân mewn tŷ yn yr UDA

Mae 10 o bobl gan gynnwys tri o blant wedi marw mewn tân mewn tŷ yn nhalaith Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau.
Roedd y bobl i gyd yn perthyn i ymladdwr tân gafodd ei ddanfon i’r digwyddiad yn Nescopeck.
Dywedodd Harold Baker bod ei fab, ei ferch, tad yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith, tri o wyrion a dau berthynas arall i gyd wedi marw yn y tân.
Ychwanegodd fod dau o’r plant ddim yn byw yn y tŷ ond yn ymweld ar gyfer yr haf.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gwasanaeth Tân Nescopeck