Cynllun gwerth £1.85m i fynd i’r afael â gweddillion gwm cnoi
Bydd cynllun newydd gwerth £1.85m gan Lywodraeth Cymru yn gobeithio cynorthwyo pum awdurdod lleol i fynd i'r afael â marciau gwm cnoi.
Dywed y llywodraeth bod sbwriel gwm cnoi yn gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr bob blwyddyn.
Yr amcangyfrif yw fod costau glanhau gwm cnoi yn y DU yn £7m yn flynyddol.
Cynghorau Blaenau Gwent, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Casnewydd ac Abertawe fydd yn derbyn arian Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi, a hynny er mwyn glanhau palmentydd.
Mae cynlluniau peilot blaenorol wedi lleihau sbwriel gwm cnoi hyd at 64% medd y llywodraeth.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: "Mae glanhau gwm oddi ar y strydoedd yn ddrud ac yn llafurus.
"Rwy'n falch iawn bod y gronfa newydd hon wedi cael ei sefydlu i gefnogi cynghorau ar draws Cymru ac i annog pobl i feddwl am y problemau mae sbwriel gwm cnoi yn eu hachosi"