Newyddion S4C

‘Angen gwneud mwy’ i atal anafiadau i’r ymennydd mewn chwaraeon

ITV Cymru 05/08/2022

‘Angen gwneud mwy’ i atal anafiadau i’r ymennydd mewn chwaraeon

Mae ffisiotherapydd sy’n arbenigo mewn anafiadau i’r ymennydd yn dweud bod angen gwneud mwy i atal anafiadau i'r ymennydd mewn chwaraeon. 

Daw hyn wrth i fwy na 150 o gyn-chwaraewyr rygbi lansio achos llys yn erbyn Rygbi'r Byd, Undeb Rygbi Pêl-droed ac Undeb Rygbi Cymru wedi iddynt dderbyn diagnosis o niwed i'r ymennydd.

Mae Hywel Griffiths yn un sydd wedi gweithio gyda rhai o’r timau chwaraeon mwyaf, gan gynnwys y Scarlets, Seland Newydd, a thîm pêl-droed Caerdydd. 

Dywedodd wrth ITV Cymru: “Rydyn ni’n dechrau gweld achosion o gyfergyd cronig a phobl yn dioddef gyda’u ffordd o fyw oherwydd ‘ny felly mae’n bryd i ni wneud rhywbeth.

“Mae lot o bethe ishe sylw ac i ni fynd i’r afael. Mae angen i ni atal pethau rhag cyrraedd y cyflwr hwn. Mae angen i ni addysgu hyfforddwyr, mae angen i ni addysgu rhieni, mae angen i ni addysgu aelodau'r teulu yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol.

"Gall cyfergyd fod yn un o symptomau lluosog ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu hadnabod.”

Mae'r grŵp sydd wedi lansio’r achos llys yn cynnwys tua 50 o gyn-chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Ryan Jones ac Alix Popham. 

Fe wnaeth y cyn-gapten rygbi Ryan Jones, sydd yn 41, ddatgelu ei ddiagnosis o ddementia am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. 

Ond, i chwaraewyr rygbi ifanc, dyw ei ddiagnosis ddim yn ddigon i'w hatal rhag peidio chwarae’r gêm.

“Dyw e ddim yn rhywbeth dwi’n meddwl am yn y gêm. Yn y gêm dwi’n meddwl am bwy dwi’n mynd am, pwy dwi’n taclo, a chael y pêl," yn ôl Jamie Jenkins.

“Dyw e ddim yn rhywbeth dwi’n poeni am nawr, falle’n y dyfodol. Pan dwi’n chawarae, mae’n rhywbeth dwi’n mwynhau gwneud. Mae rhan o’r gêm rili,” meddai Dafydd Morgan.

Ers y newyddion am Ryan Jones, mae’r drafodaeth am ddiogelwch plant yn y gêm wedi codi unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.