Newyddion S4C

Prosiect Mas ar y Maes yn datblygu perthynas gyda phartneriaid newydd

glitter cymru

Mae’r prosiect LHDTC+ 'Mas ar y Maes' yn lansio pennod newydd yn hanes y bartneriaeth ar faes Eisteddfod Ceredigion, bum mlynedd ers ei sefydlu.

Yn dilyn derbyn grant o bron i £150,000 eleni gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r bartneriaeth bresennol wedi gwahodd partneriaid newydd i gydweithio dan faner Mas ar y Maes â Balchder.

Fe fydd Glitter Cymru, Pride Cymru, Pontio Bangor, a chynrychiolaeth eang o bartneriaid hunangyflogedig creadigol LHDTC+ yn ymuno ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Stonewall Cymru a’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.

Mae meithrin a datblygu talent newydd gan hefyd ddyrchafu lleisiau a chymunedau sydd heb eu cynrychioli’n hanesyddol wedi bod yn nod ers cychwyn Mas ar y Maes yn 2018 medd y trefnwyr.

Nod y bennod newydd yw cyflwyno diwylliant Cymraeg a Chymreig i gymunedau LHDTC+ nad ydy'r prosiect eisoes yn eu gyrraedd. Y bwriad yw arddangos cynnwys newydd Cymraeg yng ngweithgaredd Pride Cymru a Glitter Cymru yn y dyfodol.

Camp Cymru

Yn ogystal â chomisiynu cynnwys celfyddydol newydd, bydd Mas ar y Maes â Balchder yn cynnal eu confensiwn cenedlaethol cyntaf, Camp Cymru ar faes yr Eisteddfod yn 2023.

Dyma fydd y sgwrs genedlaethol gyntaf o’i bath yng Nghymru, a bydd gwahoddiad i artistiaid a gwneuthurwyr creadigol ddod ynghyd i drafod a hel syniadau ar gyfer sut i arloesi’n y dyfodol medd y trefnwyr.

Image
Mas ar y Maes

Dywedodd Rania Vamvaka, Cyd-Gadeirydd Glitter Cymru: "Mae'r prosiect 'Mas Ar y Maes' yn fenter bwysig iawn ar gyfer y gymuned LHDTC+ o liw yng Nghymru; gan fod ein cymunedau wedi wynebu gwahaniaethu hanesyddol ac wedi ein cau allan o bob math o gelfyddyd.

"Mae recordio straeon ein pobl, dogfennu’u profiadau byw, ac amlygu straeon pobl o liw LHDTC+ drwy gelf, yn rhywbeth rydyn ni'n teimlo'n angerddol amdano.  Mae Glitter Cymru yn credu'n gryf y bydd y prosiect drwy gydweithio â’r Eisteddfod a Stonewall Cymru, ymysg eraill, yn helpu i ddathlu taith ein cymuned drwy amser, yn tynnu sylw at ein gwir amrywiaeth, ac nid yn unig yn arddangos diwylliant mwyafrifol hoyw gwyn.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n gyfle i ddod i adnabod y gymuned o liw LHDTC+ Cymru, a bod ein straeon yn cael eu deall a'u harddangos ym mhob rhan o Gymru."

'Ehangu gweithgarwch'

Ychwanegodd Cath Harrison, Rheolwr Elusen Pride Cymru: “Mae’n wych cael bod yn rhan o’r bartneriaeth newydd yma am gymaint o resymau; yn fwy na dim, rydyn ni’n edrych ‘mlaen at gydweithio ac ehangu’n gweithgarwch Cymraeg sydd ar gael yn Pride Cymru a’n prosiectau drwy’r flwyddyn.

"Trwy gydweithio a dysgu o’n gilydd, gobeithio y gallwn adeiladu cymuned genedlaethol o sefydliadau a phobl LHDTC+ Cymraeg sydd am i’n diwylliant cwiar Cymraeg ffynnu a mynd o nerth i nerth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.