Aur i Aled Sion Davies wrth dorri record y Gymanwlad

Cymru medalau

Mae Aled Sion Davies wedi torri record i ennill pedwaredd medal aur Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Fe enillodd y gŵr o Ben-y-bont ar Ogwr y gystadleuaeth taflu disgen F42-44/F61-64 gyda phellter o 51.39 metr - pellter sydd yn record yng Ngemau'r Gymanwlad.

Enillodd Harrison Walsh  y fedal efydd i Gymru yn y gystadleuaeth, ac fe daflodd bellter oedd yn record yn y gemau ei hun cyn i Davies ei thorri i ennill yr aur.

Mae hyn yn golygu fod Cymru yn yr wythfed safle ar restr medalau'r gwledydd yn y gemau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.