Newyddion S4C

Ail gartrefi: Cyhoeddi Comisiwn Cymunedau a chamau newydd gan y llywodraeth

04/08/2022
hawl i fyw adra.png

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi manylion comisiwn newydd fydd yn ceisio mynd i'r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae'r Comisiwn yn rhan o gynllun y llywodraeth i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi.

Fel rhan o'r camau i ddiogelu'r cymunedau hyn, bydd camau newydd yn cael eu gweithredu gan gynnwys annog perchnogion tai i roi "cyfle teg" i bobl leol wrth werthu eu heiddo.

Bydd 'Cynllun cyfle teg' gwirfoddol hefyd yn cael ei ddatblygu, er mwyn helpu perchnogion i wneud penderfyniadau ynghylch sut i werthu eu cartrefi.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys cefnogaeth i fentrau cydweithredol a chynlluniau tai cydweithredol ynghyd â chamau i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.

Aelodau'r Comisiwn

Dr Simon Brooks fydd yn cadeirio'r comisiwn, gan ddod ag arbenigwyr ynghyd i wneud argymhellion polisi, er mwyn diogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Aelodau'r comisiwn yw Talat Chaudhri, Lowri Cunnington Wynn, Cynog Dafis, Meinir Ebbsworth, Delyth Evans, Dafydd Gruffydd, Myfanwy Jones, Shan Lloyd Williams, Cris Tomos a Rhys Tudur.

Dywedodd Jeremy Miles: "Bydd y Comisiwn yn ein helpu ni i ddatblygu polisïau ar gyfer y dyfodol i gynnal yr iaith yn y cymunedau hynny sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg.

"Dwi wedi dweud sawl gwaith bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni fod yn ddewr a mynd i’r afael â phethau allai fod yn anodd gyda’n gilydd."

"Dwi’n siŵr y bydd rhai o’r pethau y bydd y Comisiwn yn eu dweud wrthon ni yn heriol, ond dyna’r peth - dyna fydd yn helpu i ni ddod o hyd i’r atebion mwya’ effeithiol!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.