Adfer hyder wedi dwy flynedd heb eisteddfodau lleol
Adfer hyder wedi dwy flynedd heb eisteddfodau lleol
Ail adeiladu wedi cyfnod llwm y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil Covid-19 – dyna’r her i’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n mynd ati i ail gynnal eisteddfodau lleol ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl ystadegau gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru, cafodd 20 o eisteddfodau lleol eu cynnal rhwng Awst 2021 a Gorffennaf 2022. Bu’n rhaid gohirio 52 a chafodd 13 eu cynnal yn rhithiol. Does dim gwybodaeth wedi dod i law am 25 eisteddfod arall. Ond mae'r sefyllfa eisoes yn ymddangos yn fwy calonogol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ar faes y Brifwyl yng Ngheredigion, cafodd y gymdeithas gyfle i ddiolch i rai o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi ers degawdau ar bwyllgorau eu heisteddfodau lleol.
Ymhlith y 33 a gafodd eu hanrhydeddu, roedd Menna Richards o Eisteddfod Gadeiriol Llanrhaeadr ym Mochnant ym Mhowys.
Mae hi wedi gwasanaethu am bron i hanner can mlynedd gan gyflawni amrywiol swyddi, o gadeirydd y pwyllgor llên i gadeirydd y pwyllgor gwaith. Ac mae hi’n gyd–ysgrifennydd ers bron i ugain mlynedd.
Roedd derbyn yr anrhydedd eleni yn brofiad arbennig i Mrs Richards, ar ôl y siom o fethu â chynnal eisteddfod yn ddiweddar.
“Hyfryd iawn! A ‘den ni wedi methu’r ddwy flynedd ddiwethaf, a gobeithio nawr bod modd i ni ail gydiad o hyn ymlaen.
“Den ni’n ail gychwyn ‘leni ym mis Tachwedd gan obeithio y bydd y plant yn llwyfannu, ond maen nhw yn ddi hyder – ma' nhw wedi colli cyfle ers dwy flynedd bellach a den ni’n teimlo ei bod hi chydig bach yn anodd. Ond os na newn ni roi’r cyfle iddyn nhw nawr, fydd na ddim olyniaeth."
Yn ôl Menna Richards, mae hyfforddwyr fymryn yn bryderus oherwydd bod cynifer o blant wedi colli cyfle i fod ar lwyfan a pherfformio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
“‘Den ni’n gobeithio y bydd yr hyder yn ail gychwyn.’Den ni’n ffodus iawn o glwb y ffermwyr ifanc yn y dyffryn – ma’ nhw’n gefnogol iawn i’r steddfod.”
Ond dyw cynnal gweithgareddau Cymraeg ddim yn hawdd, medd Mrs Richards.
“Mae o yn gyfnod heriol a ‘den ni’n trio yn ein ardal ni. Mae ‘na dipyn o fewnfudiad a Saeson yn arbennig, felly ‘den ni’n gweithio’n galed i gadw’r Gymraeg, i gadw’r gymdeithas yn fyw o hyd.”
Ac mae un peth yn codi calon Mrs Richards.
“Gweld y bobol ifanc yn datblygu a rhai ohonyn nhw’n mynd ymlaen i yrfaoedd ar lwyfan.“
Mae Menna Richards yn edrych ymlaen i barhau yn ei swydd, ond yn credu hefyd bod olyniaeth yn bwysig.
“Mae’n bwysig rhoi cyfle i rywun arall gymryd y swyddi drosodd a’u hannog nhw i gadw’r Eisteddfod yn fyw. Heb yr Eisteddfodau bach, fyddai yna ddim Eisteddfod Genedlaethol na chwaith Eisteddfod Powys sydd yn ein hardal ni. A dyna sy’n bwysig i ni, cadw’r iaith a chadw’r eisteddfod a’n diwylliant ni yn fyw.
“Heblaw am y rhai sydd ar y pwyllgor, ma’ gynnon ni griw da sy’n gweithio tu cefn llwyfan, yn gwneud bwyd a stiwardio ac yn y blaen, a ma’ hynny’n bwysig hefyd."
Ac mae’r holl waith paratoi a nerfusrwydd yn werth yr ymdrech.
‘Dech chi‘n gobeithio fod rhywun yn mynd i droi fyny, dech chi’n poeni ychydig o ddyddie cyn y steddfod ond dech chi’n teimlo tipyn o ryddhad pan fydd popeth wedi rhedeg yn esmwyth !"