Apêl o'r newydd am ddyn aeth ar goll yn 2012

03/08/2022
Kyle Vaughan

Mae Heddlu Gwent yn adyfwio apêl am ddyn aeth ar goll yn Nhrecelyn yn 2012.

Aeth Kyle Vaughan ar goll yn Nhrecelyn ar 30 Rhagfyr 2012 pan aeth allan am y noson ond ni wnaeth ddychwelyd gartref y noson honno.

Byddai Kyle yn dathlu ei benblwydd yn 34 oed ddydd Mercher.

Roedd y car yr oedd yn ei yrru, Peugeot 306 arian, mewn gwrthdrawiad ar yr A467 rhwng Crosskeys a Rhisga ar y diwrnod y gwnaeth ddiflannu.

Fe gafodd ymchwiliad person ar goll ei gyhoeddi cyn troi i fod yn ymchwiliad llofruddiaeth.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Nick Wilkie bod yr ymchwiliad yn parhau i fod yn un helaeth.

"Hyd yma, rydym ni wedi chwilio mewn 40 ardal, cyfweld dros 200 o bobl ac mae bron i 900 o ddatganiadau tystion wedi eu cynnal."

Dywedodd tad Kyle, Alan Vaughan, nad ydy'r teulu "erioed wedi rhoi'r gorau i'r gobaith y byddwn i'n dod o hyd i Kyle."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 397 30/12/12.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.