Newyddion S4C

Ffermwyr yn gorfod dysgu ‘iaith newydd’ yn sgil newid hinsawdd

Ffermwyr yn gorfod dysgu ‘iaith newydd’ yn sgil newid hinsawdd

Mae ffermwyr yn gorfod dysgu 'iaith newydd' yn sgil newid hinsawdd, yn ôl un sy'n gweithio yn y diwydiant. 

Dywedodd Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Teleri Fielden, bod targedau megis cyrraedd sero net a lleihau allyriadau carbon yn heriol i'r diwydiant amaeth.

"Mae o yn iaith newydd i ni, trio dod i ddysgu a 'neud yn siŵr bo' ni'n dalld o ar lefel y ffarm ac ar lefel busnes felly ma' genna ni lot mwy i trio dalld," meddai.

Ychwanegodd Ms Fielden bod angen eglurder a chysondeb gan Lywodraeth Cymru am y cynlluniau a'r targedau y maen nhw wedi eu gosod.

"Hefyd, ma' genna ni lot fawr o waith i 'neud yn siwr bod y llywodraeth nid jest yn rhoi targedau a pwysa' arna ni, ond hefyd they follow through efo cytundebau masnach ma' nhw'n neud efo Awstralia neu Seland Newydd.

"Does 'na ddim pwynt bo' ni yn trio cyrraedd sero net fel diwydiant yng Nghymru os ma' bwyd neu cynnyrch o bell yn tanseilio be' 'da ni'n trio'i neud."

Image
Teleri Fielden
Teleri Fielden yw Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

'Lot o heriau'

Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer cynllun taliadau newydd i ffermwyr. 

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.  

Gan fod yna nifer o dargedau heriol i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd a chyrraedd sero net yn y diwydiant amaeth, dywedodd Ms Fielden bod "pobl yn edrych i ffarmio i ateb lot o'r cwestiynau yma".

"Yn unigol i ffermwyr yng Nghymru, ma' genna ni TB, NVZs, felly ma' 'na lot o heria' ac mae oedran ffermwyr yn rei hŷn ar y funud a ma' 'na lot o heria newydd yn dod mewn i amaeth felly ma' mor bwysig i gael pobl ifanc mewn i ffarmio er mwyn dod i afael efo'r heria yma," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn greiddiol i'n cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.  Rydym wedi cynnal trafodaethau adeiladol gyda'r diwydiant ar y cynigion, a bydd hyn yn parhau wrth i ni gyd-ddylunio'r cynllun gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.

"Mae'r risg fwyaf i gynhyrchu bwyd dros y tymor canolig a'r tymor hir yn dod o newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill fel dirywiad pridd, ansawdd dŵr a cholli bioamrywiaeth. Mae buddsoddi yn ein priddoedd, cynefinoedd, da byw a sgiliau ein ffermwyr yn fuddsoddiad mewn diogelu cynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth ein helpu i gyrraedd Sero-net erbyn 2050."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.