Newyddion S4C

Penwythnos heb golli i glybiau pêl-droed Cymru

31/07/2022
Caerdydd / CPD Dinas Caerdydd

Gyda'r Bencampwriaeth a'r Ail Adran yn dychwelyd y penwythnos hwn, roedd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd yn chwarae eu gemau cyntaf o'r tymor ddydd Sadwrn.

Y Bencampwriaeth

Rotherham 1 - 1 - Abertawe

Y tîm cartref sgoriodd gyntaf, ond roedd gôl gan Harry Darling ar ôl 38 munud o chwarae yn ddigon i sicrhau gêm gyfartal i'r Elyrch yng ngêm gyntaf y tymor. 

Caerdydd 1 - 0 - Norwich

Fe wnaeth gôl Romaine Sawyers yn ei gêm gystadleuol gyntaf i'r Adar Gleision sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Norwich City mewn gêm danllyd gyda'r ddau dîm yn gorffen y gêm gyda deg dyn.

Cynghrair Dau

Sutton United 1 - 1 Casnewydd

Sgoriodd Omar Bogle i Gasnewydd yn ei gêm gyntaf ers ymuno gyda'r clwb ym mis Mehefin, ac er bod yr ymwelwyr wedi cael cyfleoedd drwy Bogle a Robbie Willmott yn yr ail hanner, parhau yn gyfartal oedd hanes y gêm. 

Wrecsam 4 -  0 Macclesfield

Daeth buddugoliaeth sylweddol i Wrecsam yn ei gêm gyfeillgar yn erbyn Macclesfield, gyda'r tymor yn cychwyn iddyn nhw ar 6 Awst yn erbyn Eastleigh yn y Cae Ras.

Fe fydd y JD Cymru Premier yn cychwyn ar 12 Awst pan fydd Airbus yn chwarae yn erbyn Aberystwyth.

Llun: CPD Dinas Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.