Beirniadu newid enw cynllun Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy oed
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gynghorau i beidio â defnyddio'r enw "Dechrau'n Deg" ar gyfer y cynllun gofal plant dwy oed.
Yn y canllaw, mae gweinidogion Plaid Cymru yn awgrymu defnyddio'r term "Gofal plant wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru."
Ond bydd gwasanaethau eraill yn glynu gyda'r enw Dechrau'n Deg, er enghraifft darpariaeth ymweliadau iechyd.
Mae Llafur Cymru wedi beirniadu'r newid, gan ddweud ei fod wedi arwain at ddryswch.
Roedd y cynllun yn un o bolisïau'r llywodraeth Lafur flaenorol.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n dymuno "cyfathrebu clir a chyson."
Mae nhw hefyd yn dweud fod y canllaw yn datgan yn glir nad oes newid i gynllun craidd Dechrau'n Deg.
Mae'n ganllaw ar gyfer Llywodraeth Cymru a'u partneriaid, yn ôl y llywodraeth.
'Eglurder'
Dechreuodd y cynllun Dechrau'n Deg yn 2007, gyda'r bwriad o gynorthwyo teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Mae'r cynllun wedi ei ehangu gan Lywodraeth Cymru i gynnwys gofal ar gyfer pob plentyn dwy oed am 12.5 awr yr wythnos.
Erbyn diwedd tymor y Senedd bresennol yn 2030, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd modd darparu gofal plant am ddim i blant o naw mis oed hyd pedair oed, am 20 awr yr wythnos.
Methiant oedd ymgais Llywodraeth Cymru i basio eu cyllideb atodol dros yr haf, oherwydd anghytundeb ynghylch ariannu addysg anghenion ychwanegol.
Gwrthododd Llafur gefnogi cynlluniau gwario'r llywodraeth yn sgil hynny.
Wrth gyfeirio at y canllaw newydd, dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ym maes plant ac addysg, Lynne Neagle AS, bod angen i Blaid Cymru ddarparu eglurder ynghylch dyfodol Dechrau'n Deg.
"Mae adroddiadau am eu llythyr dryslyd i awdurdodau lleol ar y mater hwn yn mynd i arwain at ofid i deuluoedd sy'n cael cymorth drwy gynllun Dechrau'n Deg, i weithwyr sy'n darparu'r gwasanaethau hyn, ac i awdurdodau lleol sy'n wynebu ansicrwydd ynghylch cynlluniau hirdymor y llywodraeth.
"Mae Dechrau'n Deg yn mynd y tu hwnt i ofal plant, mae'n darparu cefnogaeth allweddol yn y blynyddoedd cynnar ym maes therapi iaith a lleferydd, yn cynnig mwy o ymweliadau iechyd a chymorth i'r rhieni sydd ei angen fwyaf. Mae cyflwyno cynnig sydd wedi ei ddyfrhau i bawb, yn ei le, yn rhywbeth nad yw Cymru yn ei haeddu.
"Ni all Plaid Cymru gymryd oddi ar y rhai mwyaf bregus, er mwyn cyflawni eu haddewidion gofal plant, gyda chost y cynllun hwnnw heb ei amcangyfrif."
'Hael'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ein cynnig newydd blaenllaw ar gyfer gofal plant yw'r mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU. Bydd yn adeiladu ar y model presennol a ddarperir drwy Dechrau'n Deg ac yn mynd ymhellach na hynny.
"Rhannwyd canllawiau ag awdurdodau lleol ym mis Awst i gefnogi'r gwaith o ddarparu negeseuon clir a chyson ynghylch cyflwyno gofal plant yn raddol i bob plentyn dwy oed ledled Cymru.
"Mae ein cynnig estynedig yn golygu y bydd gofal plant yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bob teulu. Gwyddom y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, i gydraddoldeb rhwng y rhywiau, i ganlyniadau plant ac i economi Cymru."
