Cyflwyno Garry Nicholas fel Cymrawd anrhydeddus newydd yr Eisteddfod
Bydd Garry Nicholas yn cael ei gyflwyno fel Cymrawd anrhydeddus newydd yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ar lwyfan pafiliwn y Brifwyl yng Ngheredigion.
Mae'r garreg filltir, sef yr anrhydedd mwyaf y gall yr Eisteddfod ei gynnig i unrhyw un, yn cael ei rhoi fel arwydd o ddiolchgarwch am oes o wasanaeth i'r sefydliad.
Mae'r Eisteddfod wedi bod yn rhan ganolog o fywyd Garry ers degawadau gan gyfrannu at sawl maes amrywiol.
Fe gafodd ei fagu ar aelwyd oedd yn cefnogi'r Eisteddfodau lleol, gan ddechrau cystadlu yn ifanc ar lwyfannau lleol yn ogystal â chenedlaethol am flynyddoedd nes iddo ddechrau beirniadu.
Bu hefyd yn Arweinydd Llwyfan yn y Genedlaethol sawl gwaith.
Roedd yn ganolog i sicrhau bod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanelli yn 2000, gan wynebu cystadleuaeth frwd gan Gaerdydd a Thyddewi.
Ers hynny, mae Garry wedi gweithio yn ddiflino i'r Eisteddfod mewn amryw o swyddi, o fod yn Gadeirydd y Cyngor i Lywydd y Llys.
Am flynyddoedd, Garry oedd yn arwain Seremoni'r Fedal Wyddoniaeth yn ystod wythnos y Brifwyl, ac mae'n parhau fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar hyn o bryd.
Wrth gael ei gyflwyno fel Cymrawd anrhydeddus newydd yr Eisteddfod, dywedodd Garry bod gallu "bod yn rhan o deulu’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi bod yn bleser llwyr.
Rydw i’n teimlo fy mod innau wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl. Mae cael fy ethol yn Gymrawd, a hynny gan fy nghyfoedion yn anrhydedd heb ei ail ac yn un y bydda i’n ei drysori am byth.”
Llun: Eisteddfod Genedlaethol