Newyddion S4C

Ceredigion yn croesawu Cymru i'r Eisteddfod lawn gyntaf ers y pandemig

Ceredigion yn croesawu Cymru i'r Eisteddfod lawn gyntaf ers y pandemig

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd ddydd Sadwrn ar ôl gorfod cael ei gohirio am dair blynedd yn sgil y pandemig.

Ceredigion sydd yn croesawu Cymru i'r Brifwyl eleni, wedi iddi gael ei chynnal ddiwethaf yn Llanrwst yn 2019.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, bod newidiadau wedi cael eu gwneud ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

"Y'n ni wedi gwneud newidiadau, mae'r Ganolfan Groeso ar ei newydd wedd, ac mae 'na fwrlwm gŵyl yma.

'Cyfle i ail-ddod at ein gilydd'

"Mae 'na hefyd bethau ychwanegol, mae gynnon ni briosect dadeni, y cyfle i ail-ddod at ein gilydd, ac felly mi fydd 'na ddigwyddiadau na welwyd mo'u math o'r blaen ar Faes yr Eisteddfod."

Gyda phobl yn heidio yn eu miloedd i Dregaron dros yr wythnos nesaf, mae systemau unffordd mewn lle i geisio hwyluso'r traffig.

Yn ôl Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Ifan Davies, mae traffig yn anochel yr wythnos hon.

"Mae'n rhaid i chi sylweddoli, mae'n debyg iawn bydd y traffig yn llawer trymach, ac mae'n rhaid i chi ganiatáu ychydig mwy o amser i ddod, ond dyw traffig y de a'r gogledd ddim yn taro'i gilydd ac mae 'na ddigon o le i barcio, mae 'na le i 6,000 o geir i barcio 'ma."

Eleni, mae'r Maes bellter cerdded o'r dref, ac mae hynny wedi cael ei groesawu gan fusnesau'n lleol.

Dywedodd Rhiannon Evans, sy'n berchennog canolfan gemwaith yn Nhregaron, eu bod nhw'n "gweithio'n galed i ddenu pobl mewn i Dregaron achos dyw e ddim y math o le mae pobl yn digwydd mynd trwyddo.

"Os daw pobl lawr o Faes yr Eisteddfod, bydden nhw'n darganfod pethau am Dregaron oedd 'da nhw ddim syniad a gobeithio down nhw nôl."

'Bach o bawb wedi dod at ei gilydd'

Cyrhaeddwyd y targed ariannol dair blynedd yn ôl, ond roedd y Cardis yn garedig gyda'u hamser yn ogystal â'u harian wrth i furluniau gael eu creu ymhob rhan o'r sir. 

Dywedodd Owen James o ardal Lledrod bod "bach o bawb wedi dod at ei gilydd, y bobl ddi-Gymraeg wedi helpu lot 'da ni, ac wedi tynnu sylw at y 'Steddfod."

Gobaith mawr y trefnwyr yw denu pob math o bobl i gael blas o'r Eisteddfod, gan gynnig tocynnau am ddim i blant lleol dan 12, pobl difreintiedig a ffoaduriaid.

Ond, mae hynny wedi dod â'i broblemau. 

"Yn anffodus, mi na'th rhai rannu cod na ddylai fod wedi mynd ond i'r bobl oedd yn gymwys, ac mi na'th y cod 'ma fynd ymhellach na beth oedden ni yn ei ddisgwyl, mi a'th e ar hyd Cymru.

"Yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn cael cyfle i fwynhau'r Eisteddfod."

Er gwaetha'r twrw, mae Ceredigion yn awchu i roi ei stamp ei hun ar y Brifwyl, ac yn gobeithio mai dyna ddiwedd y ddrama. 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.