
Gemau eSports y Gymanwlad yn 'hwb i'r gamp yng Nghymru'
Gemau eSports y Gymanwlad yn 'hwb i'r gamp yng Nghymru'
Seiclo. Nofio. Athletau. Dyma rhai o'r campau sydd yn gyfarwydd i ddilynwyr Gemau'r Gymanwlad.
Ond gyda nifer o bobl yn gwylio campau ar y trac neu'r pwll yn Birmingham yr wythnos hon, mae yna gystadleuaeth ychydig bach yn wahanol hefyd yn cymryd lle yn y ddinas.
Dros y penwythnos, fe fydd Gemau'r Gymanwlad ar gyfer eSports yn cael eu cynnal am y tro cyntaf erioed.
Mae eSports yn cwmpasu'r gamp o chwarae gemau fideo yn brofesiynol. Fel camp, mae'n un o'r rhai mwyaf yn y byd erbyn hyn, ac yn denu miloedd o chwaraewyr i gystadlu am wobrau gwerth miliynau o bunnoedd.
Eleni fe fydd y diwydiant eSports yn cynnal pencampwriaeth ar gyfer Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf erioed, ac fe fydd chwaraewyr o bob cwr o'r byd yn dod i Birmingham i gynrychioli eu gwlad.
Un sydd yn rhan o dîm Cymru ac yn gobeithio serennu ar y llwyfan rhyngwladol yw Grace Bell.
Dechreuodd Grace gymryd rhan mewn eSports ar ôl darganfod cymuned i fenywod sydd yn chwarae'r gêm Dota 2.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn fraint enfawr i fedru cynrychioli ei gwlad yn y gemau yn Birmingham.
"Dydw i ddim yn credu fy mod i wedi cael cyfle fel hwn i chwarae dros Gymru," meddai.
"Mae'n teimlo fel breuddwyd i fi ond rydw i'n gobeithio gwneud Cymru'n falch.
"Dwi'n gyffrous i ddangos pobl yn y cymuned gamo beth mae merched Cymraeg yn gallu neud."

Fel rhan o'r gystadleuaeth, fe fydd chwaraewyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o gemau fel F1, eFootball a Rocket League.
Er nad yw'r gemau yn rhan swyddogol o Gemau'r Gymanwlad, mae'r trefnwyr a'r timau yn gobeithio y bydd cynnal cystadleuaeth ochr yn ochr yn codi ymwybyddiaeth o'r gamp.
Yn ôl pennaeth eSports Wales, John Jackson, fe all y gemau ddenu mwy o bobl i chwarae eSports, yn gymdeithasol yn ogystal ag yn gystadleuol.
"Ni'n gobeithio mae pobl yn gweld eSports fel pel-droed pump pob ochr yn y dyfodol," meddai.
"Mae'n gallu bod yn ffordd i bobl dod at ei gilydd mewn ystafell a chwarae gemau a chymdeithasu.
"Mae'r gemau yn hwb enfawr i eSports, yn enwedig ar lawr gwlad."
Mae Grace yn cytuno, ac yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn ystyried rhoi cynnig ar eSports yn sgil y gemau.
"Mae'n gam ymlaen i'r cymuned gamo yng Nghymru a rwy'n gobeithio bydd pobl eraill o Gymru yn ymuno gyda eSports Wales."