Beyoncé yn diolch i'w chefnogwyr wedi i'w halbwm newydd gael ei rhyddhau heb ganiatâd

Mae Beyoncé wedi diolch i'w chefnogwyr am aros i glywed ei halbwm newydd wedi i'r record cael ei rhyddhau heb ganiatâd.
Cafodd seithfed albwm y gantores o'r UDA, Renaissance - y cyntaf ers chwe blynedd - ei ryddhau'n swyddogol am hanner nos ddydd Gwener.
Ond deuddydd yn gynharach bu adroddiadau fod yr albwm ar werth yn gynnar mewn rhai siopau.
Er hyn, fe wnaeth nifer o gefnogwyr Beyoncé annog pobl i beidio â gwrando ar yr albwm ac yn hytrach i aros i'r record gael ei ryddhau'n swyddogol.
Mewn datganiad, dywedodd Beyoncé fod hi'n "meddwl y byd" bod ei chefnogwyr wedi aros i glywed yr albwm.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Beyoncé