‘Angen gwneud hi'n haws i bobl ar incwm isel hawlio help ariannol’

‘Angen gwneud hi'n haws i bobl ar incwm isel hawlio help ariannol’
Mae'n rhaid i bobl ar incwm isel allu hawlio help ariannol i ddelio a'r argyfwng costau byw yn haws, yn ôl pwyllgor trawsbleidiol yn Senedd Cymru.
Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 27 o argymhellion i gyd gan gynnwys ehangu nifer y bobl sy'n gymwys i gael cymorth.
Llynedd roedd 54,000 o gartrefi yng Nghymru heb hawlio taliad gwerth £200 oedd ar gael tuag at gostau ynni.
Mewn ardaloedd gwledig fel Blaenau Ffestiniog mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith amlwg. Yn ôl un person, Carys sy’n 70 oed mae cael gafael ar cymorth yna rhy gymhleth.
Wrth i brisiau godi, mae Carys yn dweud ei bod hi'n defnyddio'r banc bwyd yn aml.
“Ti methu prynu dillad, 'ma rhaid chdi feddwl am gostau byw. Prynu bwyd, talu electrig, a nwy.”
Yn ôl Paul Davies AS, cadeirydd y pwyllgor sy’n craffu’r economi ym Mae Caerdydd, mae angen symleiddio’r system.
“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru weithio yn galed di neud yn siŵr bod y rhai sydd yn cael trafferth yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. “Ar hyn o bryd mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn gymhleth ac mae hynny yn gallu effeithio ar y nifer sy’n manteisio arnynt.
Mae budd-daliadau gan Lywodraeth Cymru yn cael eu talu mewn amryw o ffyrdd.
Mae menter Y Dref Werdd yn helpu pobol Blaenau Ffestiniog i ddod o hyd i gymorth o wahanol lefydd.
Mae Rhian Medi yn gweithio i’r Dref Werdd ac yn dweud eu bod nhw’n helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau.
“Gan bod bob dim wedi mynd o’r ardal, a llawer o bobl ddim yn defnyddio’r we da ni’n hwb sydd yn cynnig bob dim iddyn nhw. Da ni’n cael criw da i mewn yma, “ meddai.
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried llunio Hybiau tebyg i Dref Werdd ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae yna help ar gael i bobol mewn cartrefi incwm is i gael hyd i’r budd-daliadau sydd ar gael yn ôl Llywodraeth Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth San Steffan i fynd ati i greu cynllun i godi ymwybyddiaeth i bawb.