Y Seintiau Newydd yn diswyddo'u prif hyfforddwr Anthony Limbrick
Mae clwb pêl-droed Y Seintiau Newydd wedi diswyddo'u prif hyfforddwr Anthony Limbrick.
Dim ond ym mis Ebrill 2021 y cafodd Limbrick ei benodi i'r rôl wrth gymryd lle Scott Ruscoe.
Llwyddodd i arwain y Seintiau i frig y JD Cymru Premier, gan ennill eu pencampwriaeth gyntaf ers 2019.
Er hyn, daw'r cyhoeddiad am ei ddiswyddiad ddeuddydd yn unig ar ôl i ymgyrch y clwb yn Ewrop ddod i ben dan amgylchiadau siomedig.
Ar ôl colli yn rownd gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, roedd gan TNS ail gyfle yng Nghyngres Ewropa.
Ond cafodd y clwb o Bowys ei drechu dros ddau gymal yn erbyn Víkingur Reykjavik o Wlad yr Ia.
Mewn datganiad ddydd Iau, fe ddiolchodd y clwb i Anthony Limbrick am ei waith gan ychwanegu na fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw arall am y tro.
Llun: Asiantaeth Huw Evans