Archdderwydd Cymru: ‘’Steddfod go iawn yn amgenach na’r AmGen’

Hir yw pob ymaros. Ac o’r diwedd, tair blynedd yn ddiweddarach mae’r aros ar ben am Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022.
Nos Wener bydd cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod yn nodi cychwyn y brifwyl yn swyddogol, ac yn ôl Archdderwydd Cymru “mae 'na hen edrych 'mlaen wedi bod".
Dyma’r tro cyntaf i’r brifwyl ddychwelyd yn dilyn y pandemig. Roedd yr Eisteddfod yng Ngheredigion wedi cael ei gohirio yn 2020 a 2021 oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Myrddin ap Dafydd ei fod wedi cyffroi ond “ychydig bach yn nerfus” am yr wythnos sydd i ddod.
“Dwi’n meddwl bo’ ni’n gyd wedi colli rhyw gam neu ddau. Felly ‘da ni dal falle yn trio dod yn ôl i’r rhythm oedda’ ni gynt,” meddai.
‘Hwre y ‘Steddfod yn ôl’
Yn ystod y pandemig cafodd Eisteddfod AmGen ei chynnal yn rhithiol ac er ei fod wedi “llenwi bwlch” mae’n bryd i’r Eisteddfod “go iawn” ddychwelyd yn ôl Myrddin ap Dafydd.
“Mi oedd yr Eisteddfodau AmGen yn angenrheidiol ar y pryd arbennig yna a diolch i bawb wnaeth gymryd rhan. Ond dwi'n meddwl fod y ‘Steddfod yn fyw go iawn yn amgenach na’r steddfod AmGen," meddai.
“Roedd rhywun yn colli’r gynulleidfa, colli’r theatr y gerddoriaeth fawreddog yn y pafiliwn, y golau. A cholli’r Hwre sydd ar y maes.
“Bydd hi’n braf iawn croesawu hynny yn ôl.”
‘Hiraeth’
Er bod edrych ymlaen mawr at y brifwyl, dywedodd Myrddin ap Dafydd y bydd hi’n deimlad chwerw felys ar y maes yn Nhregaron wrth gofio am y rhai o fawrion mae'r ardal wedi colli yn ddiweddar.
Ers yr ŵyl gyhoeddi yn Aberteifi 2019 mae Ceredigion wedi colli Wyn a Richard Jones o Ail Symudiad, Selwyn Jones, Dai Jones Llanilar a Cen Llwyd.
“Mi fydd yna hiraeth yn gymysg â’r hwyl achos 'dan ni heb gael cyfle yn iawn i fwrw’n hiraeth am rhai pobl," meddai.
“Mae 'na gymaint o bobl oedd yn agos iawn i’r ‘Steddfod ac yn arbennig y ‘Steddfod yng Ngheredigion wedi ein gadael."
“Mi fydda ni’n gweld eu bylchau nhw yn Nhregaron. Bydd hynny yn ein taro ni a bydd hynny yn codi hiraeth. Ond mi fydda ni yn cymryd hynny yn barhad yr ŵyl gan gofio yn annwyl iawn amdanyn nhw hefyd.”
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd o 29 Gorffennaf ymlaen ac "nabod pobl Ceredigion mae’r croeso yn mynd i fod yn un cynnes iawn a dwi’n edrych 'mlaen i flasu yr hyn sydd gan Dregaron i’w gynnig," ychwanegodd Myrddin ap Dafydd.