Newyddion S4C

Dymchwel tŷ gwerth £300,000 yng Nghaerdydd i adeiladu llwybr beicio

The Sun 28/07/2022
dymchwel ty

Mae perchnogion tai mewn ardal o Gaerdydd wedi colli eu brwydr i atal tŷ cyfagos rhag cael ei ddymchwel er mwyn creu llwybr beicio i ddatblygiad newydd.

Mae'r tŷ yn eiddo i ddatblygwyr y safle newydd o 45 o dai fforddiadwy, United Welsh, ac mae'r cwmni wedi bod yn ei osod am gyfnod.

Clywodd trigolion y stryd ym Mhontprennau fod pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd wedi caniatáu cais United Welsh i ddymchwel y tŷ mewn cyfarfod cynllunio ddydd Mawrth.

Mae'r trigolion yn y tai cyfagos yn pryderu y gallai'r llwybr beicio newydd fod yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y datblygwyr fod angen mawr am dai fforddiadwy yn yr ardal ac fe fyddai'r datblygiad hwnnw'n ateb y galw yma.

Darllenwch ragor yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.