Dysgwr y Flwyddyn: 'Angen mwy o sylw i'r wobr gan y wasg Saesneg'
Dysgwr y Flwyddyn: 'Angen mwy o sylw i'r wobr gan y wasg Saesneg'
Mae Dysgwr y Flwyddyn 2021, David Thomas, yn dweud bod angen mwy o sylw i'r wobr gan y wasg Saesneg.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Thomas nad oedd gan y wasg Saesneg ddiddordeb pan gysylltodd â nhw am y wobr.
"Pan enillais i'r wobr ro’n i mor benderfynol i ledu'r gair ac annog pobl i ystyried dysgu'r iaith," meddai.
"Ond y broblem yw cael y cyfle i siarad 'da pobl ddi-Gymraeg. A phan nes i gysylltu gyda'r cyfryngau Saesneg yng Nghymru doedd dim llawer o ddiddordeb i fod yn onest."
Annog eraill i ddysgu
O Gaerdydd y daw David Thomas yn wreiddiol, ac mae’n disgrifio’i hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg ac o ganlyniad roedd yn teimlo bod rhywbeth ar goll o’i fywyd.
Ond mae ef nawr yn teimlo ei fod wedi croesi'r bont o fod yn ddysgwr i fod yn siaradwr rhugl.
"Dwi'n teimlo fel siaradwr Cymraeg, wrth gwrs bod fi'n gwneud camgymeriadau ond dwi'n teimlo nawr fy mod i'n ddigon da," meddai.
"Mae ennill y wobr wedi tanlinellu rhywbeth, mae'n dweud wrtha' i fy mod i'n ddigon dda, mae fe'n rhywbeth personol iawn i fi."
Ers symud i Sir Gaerfyrddin, mae David wedi bod yn annog pobl eraill i ddysgu'r Gymraeg ac yn gwneud pob ymdrech i wneud bob dim trwy'r iaith.
Mae ei fusnes, Jin Talog yn marchnata'n ddwyieithog, ac mae David yn annog ymwelwyr i'r ddistyllfa i ddysgu.
"Ni'n derbyn ymwelwyr yn aml iawn, mae pobl yn dod ar eu gwyliau ac maen nhw'n gofyn os yw pobl yn siarad Cymraeg," ychwanegodd.
"Maen nhw'n meddwl bod y Gymraeg yn bodoli ar arwyddion a llyfrau. Dwi wedi bod yn lledu'r gair i unrhyw un sydd yn fodlon fy nghlywed am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ein cymdeithas ni."