Rhybudd am brinder cyflenwadau trydan a phrisiau ynni uwch erbyn y gaeaf

Mae'r National Grid wedi rhybuddio y gallai prisiau ynni gynyddu'n sylweddol gyda diffyg cyflenwad trydan erbyn y gaeaf.
Mae disgwyl i'r cap ar brisiau godi 74% erbyn mis Hydref, ac fe allai biliau blynyddol godi i £3,850 erbyn mis Ionawr.
Mae ESO, y corff sy'n gweithredu system drydanol y rhwydwaith pŵer, yn disgwyl i gyflenwadau trydan fod yn brin ar adegau, gan rybuddio y gallai cwsmeriaid weld problemau o fis Rhagfyr ymlaen.
Petai hyn y digwydd, fe fyddai disgwyl i'r Deyrnas Unedig dalu prisiau uwch am drydan o dramor, yn ôl adroddiad gan yr ESO.
Darllenwch ragor yma.