Caniatáu camerâu teledu mewn llysoedd troseddol am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr

28/07/2022

Caniatáu camerâu teledu mewn llysoedd troseddol am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr

Mae camerâu teledu yn cael eu caniatáu mewn llysoedd troseddol am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr o ddydd Iau ymlaen. 

Mae darlledu yn cael ei gyfyngu i'r barnwr sy'n datgan y ddedfryd a'r eglurhad amdani, ac mae oedi amser hefyd er mwyn osgoi darlledu unrhyw ymateb treisgar neu ymosodol. 

Cafodd y ddedfryd gyntaf ar y teledu ei chynnal yn yr Old Bailey ddydd Iau, gan gynnwys achos Ben Oliver a wnaeth gyfaddef i ddynladdiad ar ôl trywanu ei daid i farwolaeth.

Dywedodd y barnwr, Nic Parry, wrth Newyddion S4C bod y datblygiad yma "wedi bod ar y gweill ers ryw dair blynedd ag oedd pawb 'di cyffroi ac wedyn fe ddoth y pandemig ac fe gafodd popeth ei roi i'r neilltu felly cychwyn rhywbeth oedd bod i gychwyn beth amser yn ôl."

'Gwneud hi'n haws i'r cyhoedd ddeall'

Ychwanegodd Mr Parry mai'r rheswm tu ôl i ganiatáu camerâu teledu i ffilmio ydy er mwyn "ceisio gwneud hi'n haws i'r cyhoedd ddeall dedfrydu achos ma' 'na bryder bod yr adroddiadau sy'n cael eu rhoi mewn papur newydd, wrth reswm, yn symleiddio sylwadau mae barnwr yn ei wneud".

Ffactor pwysig arall i'r datblygiad, yn ôl Mr Parry, ydy na fydd "y camerâu yn cael dangos unrhyw reithgor, ddioddefwr, aelod o'r teulu, rhag ofn bod pobl yn meddwl y gallai hynny fennu ar gyfiawnder".

Mae'r barnwr yn gobeithio y bydd caniatáu camerâu mewn llysoedd troseddol yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd sydd yn aml yn "feirniadol o'r dedfrydau, deud nad ydyn nhw'n ddigon llym".

"Y gred ydy mai un o'r prif resymau am hynny ydy bod nhw ddim yn cael y manylion yn llawn," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.