Heddlu'n ymchwilio i adroddiadau o droseddau casineb mewn eglwys yng Ngwynedd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio yn dilyn adroddiadau o ddifrod troseddol a throseddau casineb yn Eglwys Sant Baglan yng Ngwynedd yn yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd yr Arolygwr Arwel Hughes ei fod o "fel llawer o bobl eraill wedi eu siomi yn fawr gan y gweithredoedd ofnadwy yma o fandaliaeth yn Eglwys Llanfaglan".
"Er y lleoliad gwledig, mae popeth yn cael ei wneud yn ogystal â phrofion fforensig," meddai.
Ychwanegodd yr heddlu bod dyn 18 oed wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Fe bwysleisiodd y llu eu bod nhw'n ymdrin â'r digwyddiad fel un ynysig ac nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol arall diweddar.
Llun: Google