Tad a mab o Gaerdydd wedi marw yn Bangladesh
Mae heddlu yn Bangladesh yn ymchwilio i achos posib o wenwyno ar ôl marwolaethau tad a mab o Gaerdydd.
Mae tri aelod arall o'r teulu, sydd o ardal Glan yr Afon, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Roedd y teulu yn aros mewn fflat yn ninas Sylhet yng ngogledd ddwyrain y wlad.
Bu'n rhaid i'r heddlu lleol dorri mewn i'r fflat bore dydd Mawrth ar ôl i berthnasau'r teulu alw am gymorth ar ôl iddynt gwympo'n sâl.
Yno fe gafodd Rafiqul Islam, 51, a'i fab 16 oed Mahiqul, eu cyhodddi'n farw.
Mae gwraig Mr Islam, Husnara, sy'n 45, a dau o blant eraill y cwpl, Sadiqul, 24, a Samira, 20, wedi eu cludo i'r ysbyty.
Mae'r heddlu'n aros am ganlyniadau post-mortem i ddarganfod achos y marwolaethau.