Gemau’r Gymanwlad: O Ysgol y Preseli i Dîm Cymru
Gemau’r Gymanwlad: O Ysgol y Preseli i Dîm Cymru
Yn Bencampwraig Jiwdo Prifysgolion Prydain erbyn hyn, dim ond ers chwe blynedd mae Ashleigh Barnikel wedi bod yn cystadlu o ddifri.
Mae’r ferch ugain oed sydd yn gyn-disgybl yn Ysgol y Preseli nawr yn paratoi i gynrychioli Cymru yn y gamp jiwdo yng Ngemau’r Gymanwlad.
“Nes i ddechre gwneud jiwdo pan o'n i'n bedwar, ac wedyn pryd o'n i'n bymtheg nes i dechre cystadlu,” eglurodd wrth Newyddion S4C.
“Nes i fynd i Ysgol y Preseli yn Sir Benfro ac roedd yr ysgol yn wych yn rhoi cyfleoedd chwaraeon a chefnogaeth.”
“Nes i dechre jiwdo gyda fy mam a dad ac wedyn nes i mynd i Neyland a dechre cystadlu gyda rheina, a nawr fi’n cystadlu dros Cymru a fi’n ymarfer fan hyn trw’r dydd.”
Mae hi a pum aelod arall o dîm Cymru nawr yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yng Ngemau'r Gymanwlad ym Mirmingham.
“Ma' Cymru yn rhywle eithaf bach a yn enwedig mewn chwaraeon fel jiwdo - s'dim lot o bobl yn gwneud e.
“Ma’ chwech ohonom ni yn mynd i’r gemau a fi’n meddwl achos bod y chwech ohonom ni o ardaloedd gwahanol o Gymru ma’ hwnna’n mynd i gael mwy o pobl mewn i ddechre ymuno 'da jiwdo, a bydden nhw yn sefyll fan hyn yn lle fi mewn cwpl o flynyddoedd i fynd.
“Fi’n gobeithio cael medal ond y gobaith yw cael diwrnod da a just yn gweld be sy’n digwydd.”