Coed ceirios yn rhodd o Japan i barc yng Nghaerdydd wedi'u fandaleiddio
Coed ceirios yn rhodd o Japan i barc yng Nghaerdydd wedi'u fandaleiddio
Cafodd dros 20 o goed ceirios, sy'n ffurfio rhan o rodfa newydd ym Mharc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, eu fandaleiddio y penwythnos diwethaf.
Roedd y coed yn rhan o Brosiect Coed Ceirios Sakura a grëwyd i ddathlu 150 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng Cymru a Japan.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau gyda Chyngor Caerdydd: "Dim ond ym mis Ionawr y plannwyd y coed hyn ac roeddent i fod i symboleiddio cyfeillgarwch a dealltwriaeth felly mae'r ffaith eu bod wedi'u dinistrio yn y ffordd hon yn ofnadwy.
"Mae'n weithred fwriadol o fandaliaeth, trosedd, ac rwy'n condemnio'r ymddygiad cwbl annerbyniol hwn yn llwyr.
"Mae ein tîm parciau yn y broses o asesu maint llawn y difrod a bydd yn rhoi gwybod am y digwyddiad i'r heddlu. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."
I’m beyond appalled by the deliberate vandalism of the trees in Heath Park.
— Anna McMorrin MP 🏴🏳️🌈 (@AnnaMcMorrin) July 25, 2022
🌳They were gifted as part of The Sakura Cherry Tree Project celebrating 150 years of friendship between Wales & Japan.
I’m in touch with @SWPCardiff to find the culprits of this unacceptable behaviour. pic.twitter.com/wCV1i7qeR1
Mae'r broses o gyrchu coed newydd eisoes wedi dechrau, ac amcangyfrifir mai oddeutu £4,000 fydd cost yr ailblannu.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid drwy'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol "i sicrhau bod mannau gwyrdd hygyrch cyhoeddus y ddinas yn parhau'n ddiogel" ac mae mesurau atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel goleuadau gwell, yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Dywedodd Keisaku Sandy Sano, Cadeirydd Prosiect Sakura: "Mae ein perthynas, rhwng Cymru a Siapan, yn mynd nol dros ganrif ac yn gyswllt hyfryd. Os wnewch chi ei dderbyn fe wnewn ni ail blannu ugain neu dri deg o goed ceirios yn y parc."
Llun: Anna McMorrin AS / Twitter