Newyddion S4C

Teyrnged i yrrwr beic modur 'caredig' wedi gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn

25/07/2022
S4C

Mae teulu dyn a fu farw wedi gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn yng Ngwynedd brynhawn Sadwrn, Gorffennaf 23, wedi rhoi teyrnged i dad caredig "a oedd wrth ei fodd yn gyrru beiciau modur ers degawdau"

Roedd Timothy Seyffert yn 47 oed ac yn byw yn ardal Llandrindod ym Mhowys.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu eu bod wedi colli tad " gofalgar a oedd yn llawn tosturi dros eraill "

Fe ychwanegodd y teulu eu bod yn gofyn am breifatrwydd i alaru.    

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng car Seat Leon lliw arian, a beic modur BMW lliw coch ar ffordd yr A494 tua 14:45. 

Mae'r heddlu yn galw ar unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r uned blismonau'r ffyrdd, drwy'r wefan neu ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 22000530082.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.