‘Pam fod COP27 yn cael ei chynnal yn yr Aifft yn y lle cyntaf?’

ITV Cymru 26/07/2022

‘Pam fod COP27 yn cael ei chynnal yn yr Aifft yn y lle cyntaf?’

Mae ymgyrchydd amgylcheddol ifanc o Fro Morgannwg yn cwestiynu’r penderfyniad i gynnal cynhadledd amgylcheddol COP27 yn yr Aifft. 

Mae Cerys Evans, 23, o Lanilltud Fawr, wedi bod yn ymgyrchu dros faterion amgylcheddol ac yn ystyried ei hun yn rhan o’r gymuned LHDT+. 

Mae hi'n pryderu ynghylch y ffaith bod gan aelodau’r gymuned ddiffyg hawliau dynol yn yr Aifft.

“Pam mae COP27 yn cael ei chynnal yn yr Aifft yn y lle cyntaf?” meddai. 

Yn ystod ei blwyddyn dramor, dysgodd Cerys am ddyn ifanc gafodd ei dargedu oherwydd safbwynt y wlad ar y gymuned LHDT+.

Bu Patrick Zaki yn astudio gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bologne yn 2020, ac roedd yn ysgrifennu llawer am hawliau’r gymuned yn yr Aifft. 

Image
Patrick Zaki
Arerstiwyd Patrick Zaki yn yr Aifft.
Llun: Wikimedia Commons


Wrth gyrraedd y wlad i weld ei deulu, cafodd ei arestio a’i garcharu am ledaenu newyddion ffug ac am drefnu protestiadau heb awdurdod. 

“Felly, mae hynny’n enghraifft rili fawr o sut oedd e ddim hyd yn oed dal yn byw yn yr Aifft ac fe wnaethon nhw ei dargedu fe,” meddai.

 Yn ôl Cerys, mae gan y Cenhedloedd Unedig ddyletswydd i fynd i’r afael ȃ’r broblem. 

“Beth mae’r UN yn ei wneud am hawliau dynol yn yr Aifft? Falle ddylen ni droi’r cwestiwn rownd ar hynny.

“Felly pam maen nhw’n gadael i COP27 ddigwydd yn y lle cyntaf mewn gwlad sydd yn amlwg yn camdrin pobl o’r gymuned yma.”

Ond mae Cerys yn cydnabod na fyddai ail-leoli’r digwyddiad yn broses hawdd. 

“Yn amlwg, fel person o’r gymuned LGBT, dwi’n teimlo’n gryf iawn am hawliau’r gymuned, ond dwi’n meddwl ei bod hi’n gymhleth iawn o ran pwnc yn y cyd-destun yma.

“Ydyn ni ond yn cynnal y sgyrsiau yma yn y gorllewin neu’r Global North mewn gwledydd sydd yn fwy agored? Yn amlwg, mae cynhesu byd eang yn effeithio ar bawb.

“Wedyn, ydyn ni jyst yn mynd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd o wledydd eraill sydd ddim efallai mor agored, neu sydd ddim yn rhan o’r gorllewin neu’r Global North - sydd hefyd yn cael eu heffeithio arnyn nhw [gan gynhesu byd eang] - ac ydyn nhw wedyn yn cael rhoi eu barn nhw?”

Dyw'r Cenhedloedd Unedig ddim wedi ymateb i’r sylwadau ynghylch ail-leoli’r gynhadledd na’r galwadau i fynd i’r afael â’r problemau hawliau dynol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.