Newyddion S4C

Heart Valley/ Gŵyl Ffilmiau Tribeca

Darlledu ffilm am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi am y tro cyntaf yn y DU

NS4C 26/07/2022

Bydd rhaglen ddogfen fer am fywyd ffermwr o Ddyffryn Teifi yn cael ei darlledu am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig nos Fawrth. 

Enillodd Heart Valley y wobr am y rhaglen ddogfen fer orau mewn gŵyl ffilmiau ryngwladol yn Efrog Newydd ym mis Mehefin. 

Mae Heart Valley yn dilyn diwrnod o fyd gwaith Wilf Davies wrth iddo edrych ar ôl ei braidd o 71 o ddefaid ym mhentref Cellan yng Ngheredigion.

Mae'r gwaith wedi ei gyfarwyddo gan Christian Cargill o Loegr a'r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Erland Cooper o'r Alban. Ar ôl darllen erthygl mewn papur newydd am Wilf yn 2021, roedd gan Mr Cargil ddiddordeb mawr yn ei hanes.

Dydy Wilf erioed wedi gadael y cwm, ac mae'r ffilm yn portreadu patrwm ei fywyd dyddiol, o fwyta'r un bwyd i fyw ar y fferm ar ei ben ei hun. Ond mae'n eglur na fyddai'n dymuno bod yn unrhyw le arall. 

Bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei darlledu ar BBC Two Wales ddydd Mawrth am 19:00 a bydd hefyd ar gael ar BBC iPlayer. 

Llun: Gŵyl Ffilmiau Tribeca

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.