Geraint Thomas yn drydydd yn y Tour de France
Mae Geraint Thomas wedi gorffen yn drydydd yn y Tour de France ar ôl cymal olaf cyfforddus ddydd Sul.
Jasper Philipsen o Wlad Belg ddaeth yn fuddugol ym Mharis.
Llwyddodd Thomas i orffen fel y “gorau o’r gweddill,” gan gyrraedd y podiwm am y trydydd gwaith yn ei yrfa.
Daeth Thomas yn gyntaf yn 2018 ac yn ail yn 2019.
Mewn cyfweliad ar raglen Seiclo, S4C ar ddiwedd y cymal olaf, dywedodd Thomas: “Mae’n llwyddiant i fi, fy ngwraig a fy nheulu. Mae nhw bob amser wedi fy nghefnogi.”
"Got the Commonwealth Games, that's what all this training is all for" 🏴@GeraintThomas86 yn barod i gynrychioli @TeamWales yn Birmingham!
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) July 24, 2022
🇫🇷 Le Tour de France | Cymal 21 | S4C#Seiclo pic.twitter.com/oKKPjUCHly
Bydd y Cymro yn cystadlu nesaf yng Ngemau’r Gymanwlad dros yr wythnosau nesaf.
Nid Geraint Thomas yw'r unig Gymro bydd yn dathlu ym Mharis nos Sul. Llwyddodd y Cymro, Owain Doull i gwblhau'r Tour de France am y tro cyntaf.
Breuddwyd wedi dod yn wir i @owaindoull i gwblhau y Tour de France!
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) July 24, 2022
Dream come true for the Welshman! 🏴
🇫🇷 Le Tour de France | Cymal 21 | S4C#Seiclo pic.twitter.com/f7WIQDz84E