Sunak a Truss yn cefnogi polisi dadleuol anfon ceiswyr lloches i Rwanda

Mae'r ddau ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras i arwain y Ceidwadwyr yn dweud y byddai'r polisi dadleuol o anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn parhau petai nhw'n cael eu dewis i arwain y blaid.
Daeth y polisi i rym ym mis Ebrill ond hyd yma mae heriau cyfreithiol wedi atal unrhyw un rhag gael eu hedfan i'r wlad yng nghanolbarth Affrica.
Mewn cyfweliad dydd Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Liz Truss ei bod yn benderfynol o weld y cynllun yn cael ei wireddu gan mai "dyma'r peth cywir i'w wneud".
Mae'r ail ymgeisydd yn y ras i Rif 10, y cyn-Ganghellor Rishi Sunak hefyd wedi dweud y bydda'in gwneud popeth o fewn ei allu i weld y cynllun yn llwyddo.
Mae arweinwyr crefyddol yn y DU wedi beirniadu'r cynllun fel un anfoesol ac fe ddywedodd pwyllgor dethol yn San Steffan wythnos diwethf nad oes "tystiolaeth glir" fod y cynllun yn mynd i weithio.
Darllenwch ragor yma.