Miloedd o gregyn crancod ar draeth yn Ynys Môn

Mae miloedd o gregyn crancod wedi ymddangos ar draeth ger Aberffraw yn ynys Môn.
Ar yr olwg gyntaf maent yn edrych fel crancod marw, meddai un llygad dyst.
Mae’r math yma o grancod yn rhyddhau eu cregyn dros dymor yr haf er mwyn gallu tyfu.
Maen nhw'n ymgynnull mewn niferoedd enfawr i amddiffyn eu hunain rhag bygythiadau hefyd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Richard Lee