Wcráin: Cytundeb newydd i geisio gostwng prisiau bwyd

Wcráin: Cytundeb newydd i geisio gostwng prisiau bwyd
Mae Rwsia ac Wcráin wedi dod i gytundeb i alluogi grawn i gael ei allforio o borthladdoedd yn y Môr Du.
Cafodd allforion o borthladdoedd Wcráin eu rhwystro gan luoedd Vladimir Putin pan ymosododd Rwsia ar y wlad bron i bum mis yn ôl.
Mae pryderon wedi codi dros argyfwng bwyd byd-eang yn sgil y rhwystrau wrth i brisiau ledled y byd gynyddu'n sylweddol yn sgil yr ymosodiadau.
Mae Wcráin yn rhan sylweddol o'r gadwyn bwyd rhyngwladol, gan fod yn gyfrifol am gynhyrchu 40% o wenith y byd.
Bu'r Cenhedloedd Unedig yn cydweithio gydag Wcráin a Rwsia er mwyn sicrhau'r cytundeb.
Y gobaith yw y bydd prisiau bwyd yn gostwng wrth i Wcráin ail-ddechrau allforio grawn.
Darllenwch fwy yma.