Dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot 'yn y fantol' heb gymhorthdal y llywodraeth

Fe fydd dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot "yn y fantol" oni bai bod Llywodraeth y DU yn darparu £1.5bn o gefnogaeth ariannol i leihau ei allyriadau carbon.
Dywedodd Cadeirydd cwmni Tata, Natarajan Chandrasekaran, y byddai penderfyniad i gau gwasanaethau yn y DU yn cael ei wneud mewn 12 mis os na fydd cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth wedi dod cyn hynny.
Mae'r gwaith dur ym Mhort Talbot yn cyflogi oddeutu 4,000 o weithwyr, ac mae cwmni Tata yn awyddus i drawsnewid y ffordd mae'r safle yn gwasanaethu fel rhan o strategaeth fuddsoddi werdd gwerth £3bn.
Mae Tata wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu hanner y buddsoddiad o £3bn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wikimedia Commons