Newyddion S4C

Adroddiad Arbennig: Creithiau rhyfel yn amlwg ar Wcráin

Newyddion S4C 21/07/2022

Adroddiad Arbennig: Creithiau rhyfel yn amlwg ar Wcráin

Mae bron i bum mis wedi mynd ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin am y tro cyntaf, a does dim arwydd bod y rhyfel ar fin dod i ben. 

Ond i bobl Kyiv, mae bywyd yn mynd yn ei flaen er gwaethaf y lladd a’r gwrthdaro ar draws y wlad.

Mae gohebydd Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn wedi teithio i Kyiv er mwyn gweld sut mae’r ymosodiadau wedi effeithio ar bobl y wlad yn ystod y cyfnod tywyll diwethaf.

Fe ddaeth byddin Rwsia yn agos iawn i gipio Kyiv nôl ym mis Mawrth, ond bu rhaid i filwyr Putin encilio yn sgil yr ymdrech arwrol gan fyddin Wcráin a phobl y ddinas i amddiffyn eu prifddinas. 

Bellach mae lluoedd Putin yn ffocysu ar ardal Donbas yn nwyrain y wlad, gyda bygythiadau o ehangu eu hymgyrch yn bellach o’r brifddinas. 

 Mae pobl Kyiv yn dal i fyw mewn ofn, ac yn poeni am y dyfodol. Mae cofebion hanesyddol y wlad wedi'u gorchuddio rhag difrod pellach ac mae llochesi tan ddaear ar agor o hyd rhag ofn i'r bomio ail-ddechrau. 

Mae gweddillion milwrol o ymgyrch Rwsia wedi'u harddangos ym mhrif sgwâr y ddinas, ynghyd a wal goffa i gofio'r rhaid sydd wedi colli eu bywydau wrth amddiffyn eu mamwlad wedi ei chodi, i gyd er mwyn cofio am y dioddefaint dros y misoedd diwethaf.

I bobl Wcráin, mae bywyd o ddydd i ddydd yn ceisio mynd yn ei flaen, er gwaethaf y ffaith bod eu cenedl yn brwydro i oroesi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.