Cymru yn cynnal Gŵyl Telynau'r Byd am y tro cyntaf erioed
Fe fydd telynorion o bedwar ban byd yn ymgynnull yng Nghaerdydd ddydd Gwener ar gyfer Cyngres Telynau'r Byd.
Er gwaethaf hanes y delyn yng Nghymru, dyma fydd y tro cyntaf i'r gyngres gael ei chynnal yng Nghymru.
Fe fydd cerddorion ledled y byd yn cymryd rhan mewn 200 o berfformiadau ar draws Caerdydd dros yr wythnos nesaf.
Bydd cyngherddau yn cael eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, amgueddfa Sain Ffagan a Neuadd Dewi Sant ymysg lleoliadau eraill fel rhan o raglen sydd wedi'i threfnu gan y delynores fyd-enwog Catrin Finch.
Mae'r gyngres yn teithio i Gymru ar ôl gorfod gohirio'r digwyddiad yng Nghaerdydd yn 2020 yn sgil y pandemig. Er i ŵyl rithiol gael ei chynnal yn 2021, mae'r trefnwyr bellach yn gyffrous i gynnal digwyddiad byw i gerddorion ac ymwelwyr.
Yn ôl Cyngres Telynau'r Byd, mae'r digwyddiad yn gyfle i hybu'r delyn gan annog pobl ifanc i chwarae'r offeryn.